Cynllunio

Mae’r broses gynllunio ar gyfer prosiectau ynni mawr a chymhleth yn hir a thrylwyr, sy’n cynnwys caniatâd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â mewnbwn gan awdurdodau lleol a chyngor arbenigol gan asiantaethau statudol. Bydd y broses gynllunio ffurfiol yn cychwyn ar gyfer Gwynt Glas os byddwn yn llwyddo i ennill prydles gwely’r môr yng nghylch tendro cystadleuol Ystad y Goron.

Ystyrir bod cynlluniau ynni o'r maint hwn yn Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ac fe'u pennir drwy'r broses Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) a reolir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd Gwladol y DU, yn seiliedig ar unrhyw argymhellion a wneir gan yr Arolygydd Cynllunio.

Mae angen Trwydded Forol ar ddatblygiadau yn y môr hefyd. Yn nyfroedd Cymru, mae hyn yn cael ei ganiatáu gan gorff Llywodraeth Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn nyfroedd Lloegr, rhoddir y Drwydded Forol gan y Sefydliad Rheoli Morol fel rhan o'r cais DCO. Bydd ein hymagwedd yn dibynnu ar awdurdodaeth ardal dewis safle terfynol y prosiect.

Y Broses Gynllunio

Mae datblygu prosiect o'r maint hwn yn gostus ac yn cymryd amser ac mae angen edrych yn fanwl ar nifer o ffactorau. Mae’n rhaid inni ystyried yr effeithiau ecolegol yn erbyn budd cynhyrchu ynni glân, pa dechnolegau sydd orau a chynllun y fferm wynt, sut y byddwn yn trosglwyddo’r trydan a gynhyrchir i’r tir, o ble a sut y byddwn yn caffael yr offer a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom, ar yr un pryd â cheisio lliniaru unrhyw effeithiau y gall y prosiect eu cael ar yr amgylchedd a rhanddeiliaid tra'n cadw costau mor isel â phosibl.

Mae angen i ni ddangos sut rydym wedi archwilio'r ffactorau hyn a pha gasgliadau rydym wedi dod iddynt yn ein ceisiadau cynllunio ac mae'r broses gynllunio wedi'i dylunio i archwilio ein gwaith yn drylwyr.

Wrth galon y broses gynllunio mae ymgynghori – gydag arbenigwyr pwnc, gydag aelodau o’r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, a chydag asiantaethau statudol. Gall pawb ddweud eu dweud ar y prosiect drwy'r broses DCO.

Rhennir y broses gynllunio yn pum adran:

one

Cyn-ymgeisio
Cyn cyflwyno cais datblygu, mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori ar ein cynigion. Byddwn yn ymgynghori ar effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd posibl y cynnig gyda chyrff statudol, awdurdodau lleol, y cymunedau lleol a rhanddeiliaid sy'n debygol o gael eu heffeithio. Mae ymgynghori’n gynnar ac mor eang â phosibl â chymunedau, busnesau a grwpiau hefyd yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni lunio prosiect sy’n lleihau unrhyw effaith ar randdeiliaid a defnyddwyr eraill yn ogystal â chyflawni prosiect sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn darparu buddion lleol.

Y cam hwn yw'r amser gorau i ddylanwadu ar brosiect, felly cysylltwch â ni a chymerwch ran.

two

Cais a derbyn
Yn dilyn ymgynghoriad, ac asesiadau amgylcheddol ac arolygon, cyflwynir y cais yn ffurfiol. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn penderfynu o fewn 28 diwrnod a yw’n bodloni’r safonau gofynnol i’w hystyried. Os cânt eu derbyn, bydd yr holl ddogfennau cynllunio ar gael i'r cyhoedd.

three

Cyn-archwilio
Ar y cam hwn, gall aelodau'r cyhoedd gofrestru fel Parti â Diddordeb a chyflwyno eu barn yn ysgrifenedig. Penodir Awdurdod Archwilio a gwahoddir pawb sydd â diddordeb i fynychu cyfarfod rhagarweiniol, a gaiff ei gynnal a’i gadeirio gan yr Awdurdod Archwilio. Nid oes amserlen statudol ar gyfer cam hwn y broses, er ei fod fel arfer yn cymryd tua thri mis. Cyhoeddir amserlen yr archwiliadau. Bydd Partïon â Diddordeb yn cael gwybod am y weithdrefn.

four

Archwilio
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn archwilio’r cais o fewn chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y gwahoddir Partïon â Diddordeb sydd wedi cofrestru i ddarparu rhagor o fanylion am eu barn yn ysgrifenedig.

five

Argymhelliad a Phenderfyniad
O fewn tri mis, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn llunio adroddiad ac yn gwneud argymhellion ar y cais. Ystyrir y rhain gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd â thri mis arall i ystyried y cais cyn cyhoeddi penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi neu wrthod caniatâd datblygu.