Y Gadwyn Gyflenwi

Mae Gwynt Glas wedi cynnal digwyddiadau cadwyn gyflenwi lleol yn ne Cymru ac yn ne-orllewin Lloegr ar gyfer busnesau sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddatblygiadau gwynt alltraeth arnofiol Môr Celtaidd. Darparwyd gwybodaeth i gefnogi busnesau i gymryd rhan mewn cyfleoedd posibl a fydd yn deillio o adeiladu a gweithredu prosiectau fel Gwynt Glas.

Gwynt Glas Floating Wind Farm Supply Chain Event Llanelli Gwynt Glas Floating Wind Farm Supply Chain Event Llanelli Gwynt Glas Floating Wind Farm Supply Chain Event Llanelli Gwynt Glas Floating Wind Farm Supply Chain Event Llanelli

Bydd datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol arbenigol a dibynadwy yn rhan bwysig o brosiect Gwynt Glas, yn cefnogi cymunedau arfordirol a chreu buddion hirdymor i’r rhanbarth.

Mae Sir Benfro eisoes yn ganolfan ynni, a hithau wedi croesawu technolegau sefydledig fel nwy a phetrocemegol, mae'r rhanbarth bellach yn gartref i sectorau sy'n dod i'r amlwg mewn ynni adnewyddadwy.

Mae treftadaeth y de-orllewin, ei sylfaen dalent a 300 milltir o arfordir wedi helpu i greu sector morol sylweddol gyda mynediad i rwydwaith mawr o gwmnïau a sefydliadau morol sydd bellach eisiau sefydlu’r rhanbarth fel canolfan ar gyfer diwydiant morol-dechnoleg a diwydiant ynni ar y môr.

“Rydym yn credu’n gryf y bydd Gwynt Glas yn gatalydd ar gyfer twf pellach yn y gadwyn gyflenwi ledled y DU sy’n rhywbeth rydym ni fel cwmni yn gefnogol iawn iddo. Byddwn yn defnyddio ein profiad ym maes ynni gwynt ar y môr i helpu i ddod â chyfleoedd i gwmnïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar y prosiect hwn.

“Mae gwynt arnofiol alltraeth yn dechnoleg newydd gyffrous a bydd yn dod â mewnfuddsoddiad mawr ei angen a all adfywio economïau a chymunedau arfordirol.”

Sioban Butler, Rheolwr Caffael

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gadwyn gyflenwi, neu os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn gweithio gyda ni, cliciwch yma i lenwi ffurflen ddiddordeb y gadwyn gyflenwi.