Partneriaeth newydd yn cael ei ffurfio ar gyfer Fferm Wynt Alltraeth Arnofiol Gwynt Glas

10 April 2024
« Yn ôl i newyddion
Image

Partneriaeth newydd yn ymrwymo i'r Môr Celtaidd a gwneud y gorau o'r cyfle

Mae EDF Renewables UK yn ymrwymo i bartneriaeth gyda’r datblygwr ynni adnewyddadwy Gwyddelig ESB, a’r buddsoddwr ynni gwynt ar y môr byd-eang, Reventus Power i ddatblygu Fferm Wynt Alltraeth Arnofiol Gwynt Glas yn y Môr Celtaidd.

Mae'r bartneriaeth yn golygu bod EDF Renewables UK, ESB a Reventus Power yn berchen ar gyfran o 33.33% yr un. Mae’r bartneriaeth yn cadarnhau ymrwymiad y triawd i gyflenwi ynni gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd ac mae’n disgwyl gwneud cais yng Nghylch Prydlesu 5 Ystâd y Goron. Mae DP Energy yn parhau i fod yn bartner datblygu yn y prosiect, gan fanteisio ar eu presenoldeb a’u hymgysylltiad lleol.

Mae tîm prosiect Gwynt Glas wedi bod yn weithgar yn rhanbarth y Môr Celtaidd ers peth amser ac wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth wneud y gorau o’r cyfle gan gynnwys cynnal digwyddiadau cadwyn gyflenwi a rhoi rhaglen lwyddiannus ar waith i ysbrydoli gweithlu’r dyfodol, Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy.

Dywedodd Matthieu Hue Prif Swyddog Gweithredol EDF Renewables UK: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ESB a Reventus Power i Gwynt Glas fel ein partneriaid menter ar y cyd newydd.

Rydyn ni eisoes yn gweithio gydag ESB ar brosiectau eraill, gan gynnwys Neart na Gaoithe, ein fferm wynt alltraeth, sydd wrthi’n cael ei hadeiladu yn Firth of Forth, a fferm wynt ar y tir Stornoway yn Ynysoedd y Gorllewin.

“Mae gennym ni berthynas agos â thîm Reventus Power, ar ôl gweithio gyda nhw ar Provence Grand Large, fferm wynt alltraeth arnofiol gyntaf Ffrainc.

“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu Fferm Wynt Alltraeth Arnofiol Gwynt Glas, ac yn edrych ymlaen at ddarparu ynni glân, cefnogi swyddi medrus a hybu economïau lleol.”

Dywedodd Jim Dollard, Cyfarwyddwr Gweithredol, Generation Trading yn ESB: “Mae ESB yn falch iawn i ymuno â dau bartner profiadol mewn ymdrech ar y cyd i sicrhau hawliau gwely’r môr ym mhroses dyrannu gwely’r môr Rownd 5 Ystâd y Goron.

“Wrth i ESB yrru tuag at ei darged Sero Net erbyn 2040, rydyn ni’n ymwybodol y bydd ynni gwynt ar y môr yn gwneud cyfraniad hollbwysig at y nod hwnnw. Mae gan wynt alltraeth arnofiol y potensial i gael effaith wirioneddol, nid yn unig yma yn y DU ond hefyd yn Iwerddon lle mae gennym ni un o’r adnoddau gwynt ar y môr arnofiol gorau yn y byd. Rwy’n edrych ymlaen at dyfu ein perthynas ag EDF Renewables UK ac yn croesawu’r cyfle i weithio gyda Reventus Power.”

Dywedodd Michael van der Heijden, Prif Swyddog Gweithredol Reventus Power: “Rydyn ni’n falch iawn o ymuno ag EDF Renewables ac ESB, dau gwmni blaenllaw yn y diwydiant, yng nghonsortiwm Gwynt Glas. Ynghyd â’n partneriaid, rydyn ni’n dod â dealltwriaeth ddofn o’r farchnad ynni gwynt alltraeth arnofiol ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yng Nghylch Prydlesu 5 y DU.”

“Wrth i Reventus Power ehangu ei bortffolio ynni gwynt ar y môr byd-eang, mae’r cyfle hwn yn y Môr Celtaidd yn cyd-fynd â’n huchelgeisiau i gychwyn a buddsoddi mewn datblygu prosiectau ynni gwynt alltraeth o ansawdd uchel yn fyd-eang.”