Bydd Cydweithrediad Newydd yn y Diwydiant yn Datblygu Sgiliau I Bweru Myfyrwyr Cymru i Yrfa Ynni Glan

15 July 2022
« Yn ôl i newyddion
Image

Mae cwrs newydd sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer y farchnad swyddi ynni adnewyddadwy yn y dyfodol wedi’i lansio gan Goleg Sir Benfro. Mae dau gwmni ynni adnewyddadwy byd-eang – EDF Renewables UK a DP Energy – wedi ymuno â Choleg Sir Benfro ac wedi dylunio rhaglen gyfoethogi’r cwricwlwm sy’n hyrwyddo byd gwaith i ddysgwyr 16-18 oed.

Bydd y cwrs 2 flynedd - Destination Renewables - yn addysgu dysgwyr am dechnolegau ynni adnewyddadwy a phrosesau datblygu prosiectau ar draws llu o dechnolegau megis tonnau, llanw, gwynt ar y tir, solar a gwynt ar y môr. Gan weithio ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant i arddangos yr ystod amrywiol o yrfaoedd o fewn y sector, y nod yw pontio’r bwlch sgiliau a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol, tra’n cefnogi targedau sero net a sicrhau’r buddion rhanbarthol mwyaf posibl.

Ym mis Medi, bydd y rhaglen beilot yn cael ei chyflwyno i fyfyrwyr Diploma Lefel 3 Peirianneg, a bydd cyfle pellach i ddysgwyr Busnes, TG ac Adeiladu gymryd rhan mewn sesiynau. Yn dilyn ymlaen o gynllun peilot y flwyddyn gyntaf, mae DP Energy ac EDF yn gobeithio y gellir cynnig y cwrs i garfan ehangach o fyfyrwyr er mwyn denu sgiliau a thalent o bob disgyblaeth i’r llwybrau gyrfa amrywiol a gynigir gan y sector.

Mae Sir Benfro eisoes yn ganolfan ynni, ar ôl cynnal technolegau sefydledig fel nwy a phetrocemegol, mae bellach yn gartref i sectorau sy'n dod i'r amlwg mewn ynni adnewyddadwy. Mae EDF Renewables UK a DP Energy eu hunain yn datblygu Gwynt Glas, hyd at 1 GW o wynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd, oddi ar arfordir Sir Benfro.

Dywedodd Nancy McLean o EDF Renewables UK sy’n arwain prosiect Gwynt Glas: “Gyda ffocws cynyddol ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau cyflenwadau ynni, mae’n rhaid datblygu technolegau adnewyddadwy a’u cyflwyno’n gyflym, ac mae angen i ni adeiladu gweithlu medrus i cyflawni ein cynlluniau. Mae’r bartneriaeth gyda Choleg Sir Benfro yn ein helpu i ddatblygu talent cynhenid ​​ac yn bodloni dyheadau Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau gwyrdd i gyflawni sero net. Yn ogystal â datblygu prosiect gwynt ar y môr arnofiol Gwynt Glas, mae EDF Renewables UK yn buddsoddi mewn prosiectau ynni gwynt, solar a batri ar y tir ledled Cymru, felly bydd digonedd o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.”

Dywedodd Chris Williams, Pennaeth Datblygu’r DU a Marchnadoedd Newydd yn DP Energy: “Mae cyfoeth o arbenigedd ynni adnewyddadwy yn y Sir, a dyna un o’r rhesymau pam yr agoron ni ein pencadlys yn y DU yma yn Noc Penfro yn ddiweddar. Trwy gyflwyno dysgwyr i’r llwybrau gyrfa niferus o fewn ynni adnewyddadwy, credwn y gallwn adeiladu’r gweithlu sydd ei angen i gefnogi prosiectau fel Gwynt Glas ac uchelgeisiau ehangach DP Energy yng Nghymru gan gynnwys llanw, gwynt ar y tir, solar, batris a hydrogen. Mae meddu ar y sylfaen sgiliau hon yn hanfodol er mwyn i Gymru gynnal ei safle fel arweinydd ym maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy a datblygu technoleg ac mae’n wybodaeth y gellir ei hallforio ledled y byd.”

Coleg Sir Benfro yw darparwr addysg ôl-16 mwyaf y Sir a dywedodd y Pennaeth Peirianneg, Arwyn Williams: “Mae’r Coleg yn falch iawn o weithio mor agos gyda diwydiant i ddatblygu’r doniau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol mewn sector sydd mor bwysig i ein bywydau i gyd, ac un sydd eisoes â chartref sefydledig yma yn Sir Benfro. Fel ein partneriaid cyflawni – EDF Renewables UK a DP Energy – rydym yn awyddus i wneud y mwyaf o’r buddion rhanbarthol y gall prosiectau ynni adnewyddadwy eu cynnig, a byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddatblygu gweithlu lleol medrus i weithio ar draws pob disgyblaeth.”

Mae Destination Renewables yn seiliedig ar raglen sgiliau a thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir ar y cyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, ochr yn ochr â buddsoddiad gan y sector preifat. Bydd Fforwm Arfordirol Sir Benfro yn cefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy i gyflawni'r bartneriaeth hon rhwng y sector preifat ac addysg. Bydd eu tîm addysg arbenigol yn rheoli safonau cynnwys diwydiant o ansawdd uchel i sicrhau taith gadarnhaol i ddysgwyr.