Prosiect Ynni Gwynt Alltraeth Gwynt Glas yn cryfhau’r datblygiad ac yn croesawu Sumitomo fel partner newydd

10 August 2026
« Yn ôl i newyddion
Image

Heddiw, mae prosiect Ynni Gwynt Alltraeth Gwynt Glas wedi cyhoeddi ei fod yn cryfhau’r fenter ar y cyd wrth i Sumitomo Corporation ymuno fel partner cyfartal ochr yn ochr ag EDF Power Solutions UK and Ireland ac ESB. Mae gan bob partner gyfran o 33.33% erbyn hyn, ac mae DP Energy yn parhau i ddarparu cymorth datblygu hanfodol, gan fanteisio ar ei arbenigedd wrth gyflawni prosiectau’n gynnar ac ymgysylltu’n lleol.

Mae'r gwaith cydweithio strategol hwn yn dod â thri arweinydd rhyngwladol ym maes ynni adnewyddadwy at ei gilydd i gyfuno arbenigedd sylweddol ym maes datblygu a darparu ar raddfa fawr. Mae’r bartneriaeth yn rhoi Gwynt Glas mewn sefyllfa i symud ymlaen yn hyderus drwy ei chamau nesaf, gan atgyfnerthu ei rôl o ran darparu ynni glân a lleol i Gymru a’r DU ar yr un pryd â chefnogi diogelwch ynni a thwf economaidd.

Mae Gwynt Glas yn fferm wynt arnofiol ac arloesol arfaethedig yn y Môr Celtaidd. Mae’r prosiect hyd at 1.5GW yn parhau i wneud cynnydd cryf a chyflwynodd ei Adroddiad Cwmpasu’n llwyddiannus i’r Arolygiaeth Gynllunio yr haf hwn.

Dywedodd Matthieu Hue, Prif Swyddog Gweithredol EDF power solutions UK and Ireland:

“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Sumitomo Corporation i dîm Gwynt Glas. Mae eu profiad rhyngwladol helaeth o ddatblygu a buddsoddi mewn ynni gwynt alltraeth yn ychwanegu at ein profiad ni a phrofiad ESB, gan greu partneriaeth bwerus sydd wedi ymrwymo i gyflawni’r prosiect hanfodol hwn ar gyfer Cymru a’r DU.”

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n partneriaid presennol a’n partneriaid newydd.”

Dywedodd Jim Dollard, Cyfarwyddwr Gweithredol Generation Trading yn ESB:

“Mae’n bleser gennym groesawu Sumitomo Corporation i brosiect Gwynt Glas, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw ochr â’n partneriaid hirsefydlog, EDF power solutions UK and Ireland. Mae hyn yn nodi cam sylweddol arall yn y cam hwn o’r prosiect - un sydd yn bwysig i ni yn ESB gan y bydd gwynt alltraeth yn gonglfaen i gyflawni ein strategaeth allyriadau carbon sero net.

Dywedodd Jun Minase, Rheolwr Cyffredinol, Overseas Energy Solutions SBU yn Sumitomo Corporation:

“Rydyn ni’n falch iawn o ymuno â phrosiect Gwynt Glas. Wrth i ddatblygiad ynni gwynt arnofiol ar y môr gael ei ddatblygu gan EDF power solutions UK and Ireland ac ESB, mae’r prosiect yn cynrychioli cyfle pwysig i gyfrannu at y gwaith o newid i ynni adnewyddadwy. Gan ddefnyddio ein profiad a’n harbenigedd ym marchnad y DU a’r sector gwynt alltraeth, bydd Sumitomo Corporation yn gweithio’n agos gyda’i phartneriaid i gefnogi datblygiad llwyddiannus y Prosiect a gwella ei werth hirdymor. Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn farchnad strategol bwysig i Sumitomo Corporation. Drwy'r buddsoddiad hwn, ein nod yw cyfrannu at uchelgeisiau Sero Net 2050 Llywodraeth y DU a chefnogi’r broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy a chreu cymdeithas fwy cynaliadwy." 

 

Nodiadau i Olygyddion

Gwybodaeth am EDF power solutions UK and Ireland

Mae EDF power solutions UK and Ireland (www.edf-powersolutions.uk) yn is-gwmni i’r EDF Group, sef un o gwmnïau trydan carbon isel mwyaf y byd, ac mae ein buddsoddiad a’n harloesedd yn lleihau costau i ddefnyddwyr ac yn dod â manteision sylweddol i gymunedau.

Gyda’n portffolio gweithredu o 50 o safleoedd ynni adnewyddadwy sy'n cynnwys batri, gwynt ar y tir a gwynt alltraeth, rydym yn darparu trydan carbon isel fforddiadwy y mae mawr ei angen. Mae gennym bortffolio cynyddol o brosiectau gwynt, batri a solar yn y camau cynllunio, datblygu ac adeiladu, ac rydym yn bwriadu cyrraedd 10 GW erbyn 2035.

Gwybodaeth am ESB 

Sefydlwyd ESB ym 1927 yn gorff statudol o dan Ddeddf (Cyflenwi) Trydan, 1927. Gyda daliad o 97.7%, mae ESB yn eiddo’n bennaf i Lywodraeth Iwerddon. Mae’r 2.3% sydd ar ôl yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr Cynllun Perchnogaeth Cyfranddaliadau Cyflogeion. Fel cyfleustod cryf ac amrywiol, mae ESB yn gweithredu ar draws y farchnad drydan, o gynhyrchu i drawsyrru a dosbarthu, i gyflenwi cwsmeriaid yn ogystal â defnyddio ein rhwydweithiau i gludo ffeibr ar gyfer telathrebu.

Ewch i esb.ie i gael gwybod mwy am ESB.

Gwybodaeth am Sumitomo Corporation

Mae Sumitomo Corporation (TIO: 8053) yn gwmni masnachu a buddsoddi busnes integredig gyda rhwydwaith byd-eang cryf sy’n cynnwys swyddfeydd mewn dros 60 o wledydd a rhanbarthau. Mae Sumitomo Corporation Group yn cynnwys tua 500 o gwmnïau ac 80,000 o weithwyr ar sail gyfunol. Mae gweithgareddau busnes y Grŵp wedi’u gwasgaru ar draws y deg grŵp canlynol:~: Dur, Modurol, Systemau Trafnidiaeth ac Adeiladu, Datblygiadau Trefol Amrywiol, Gwasanaethau Cyfathrebu, Deallusrwydd Artiffisial Digidol, Busnesau Ffordd o Fyw, Adnoddau Mwynhau, Datrysiadau Cemegol a Busnes Trawsnewid Ynni. Mae Sumitomo Corporation wedi ymrwymo i greu mwy o werth i gymdeithas o dan y neges gorfforaethol o “Gyfoethogi Bywydau a’r Byd”, sy’n seiliedig ar egwyddor Sumitomo ar gyfer busnes,  sydd wedi cael ei rhannu ers dros 400 mlynedd. Sumitomo Corporation