EDF Renewables UK yn creu partneriaeth gyda DP Energy i ddarparu hyd at 1GW ym mhrosiect gwynt alltraeth arnofiol ‘Gwynt Glas’ yn y Môr Celtaidd

12 January 2022
« Yn ôl i newyddion
Image

Mae EDF Renewables, un o gwmnïau ynni adnewyddadwy mwyaf blaenllaw’r DU, yn cyhoeddi partneriaeth menter ar y cyd â’r datblygwr prosiectau adnewyddadwy rhyngwladol DP Energy, i gynhyrchu hyd at 1GW o ynni gwyrdd carbon isel yn y Môr Celtaidd. Mae'r prosiect yn debygol o rychwantu dyfroedd Cymru a Lloegr.

Bydd y prosiect gwynt alltraeth arnofiol o’r enw ‘Gwynt Glas’ yn darparu pŵer ar gyfer tua 927,400 o gartrefi.* Bydd hyn yn cyfrannu rhan sylweddol o uchelgais Ystâd y Goron ar gyfer capasiti o 4GW yn y Môr Celtaidd fel y cyhoeddwyd ym mis Hydref 2021.

Mae’r gwaith yn cynnwys nodi ardal chwilio fanwl ac astudiaethau cyfyngu manwl ar gyfer lleoliad arfaethedig y prosiect eisoes wedi dechrau. Mae ardal o ddiddordeb sy'n cwmpasu rhyw 1,500km2 wedi'i nodi, tua 70km o'r lan, gydag arolygon awyr cychwynnol o bell ar gyfer mamaliaid ac adar morol yn cael eu cynnal ers gwanwyn 2021. Bydd tîm y prosiect yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a phartïon â diddordeb yn yr wythnosau nesaf i fireinio lleoliad y safle arfaethedig.

Dywedodd Scott Sutherland, Pennaeth Ynni Gwynt Alltraeth EDF Renewables UK “Mae hwn yn gychwyn gwych i 2022 i ni ac rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi’r bartneriaeth hon gyda DP Energy. Rydym ni’n credu’n gryf y bydd Gwynt Glas yn gatalydd ar gyfer twf pellach yn y gadwyn gyflenwi ledled y DU sy’n rhywbeth rydym ni fel cwmni’n gefnogol iawn iddo.

“Byddwn yn defnyddio ein profiad ym maes ynni gwynt alltraeth i helpu i ddod â chyfleoedd i gwmnïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar y prosiect hwn ac ar rai eraill, fel ein prosiect Blyth 2 a’r ddau rydym ni’n gwneud cais amdanynt ym mhroses ScotWind.

“Mae gwynt alltraeth arnofiol yn dechnoleg newydd gyffrous a bydd yn dod â mewnfuddsoddiad mawr ei angen a all adfywio economïau a chymunedau arfordirol.”

Dywedodd Simon De Pietro, Prif Swyddog Gweithredol DP Energy “Mae dull 30 mlynedd DP Energy o ddatblygu prosiectau adnewyddadwy yn rhoi’r amgylchedd a’r gymuned leol yn ganolog. Yn ein partneriaid, rydym ni’n chwilio am sefydliadau sydd yr un mor ymroddedig â ni i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

“Gydag EDF Renewables UK rydym ni wedi dod o hyd i gynghreiriad cryf i ddatblygu Gwynt Glas, sy’n rhoi pwyslais cryf ar ddal y gadwyn gyflenwi ranbarthol a chyfleoedd cymunedol lleol, ochr yn ochr â diogelu ein hamgylchedd.

“Cafodd pob aelod o dîm DP Energy sydd wedi’i leoli yn Noc Penfro ei eni a’i fagu yng Nghymru ac rydym ni’n frwd dros gefnogi twf sector ynni newydd a all gynnal swyddi medrus sy’n talu’n dda mewn ardaloedd arfordirol, yng Nghymru ac yn Ne-orllewin Lloegr.

* Ffactorau llwyth yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl pum mlynedd ar sail cyfluniad heb ei newid gan ddefnyddio Tabl 6.5 o 'Crynodeb o Ystadegau Ynni'r DU' - y ffigurau diweddaraf yn unol â datganiad mis Gorffennaf 2019. Yn seiliedig ar y defnydd o drydan domestig cyfartalog fesul cartref (tymheredd wedi'i gywiro) fesul Defnydd o Ynni yn y DU (cyhoeddwyd Gorffennaf 2019, Tabl C9 o ECUK: Tablau data Defnydd).