Cyfle yn y Môr Celtaidd
Gorwedd y Môr Celtaidd rhwng Cymru ac Arfordir de-orllewin Lloegr . Mae arloesedd technolegol yn golygu y gellir lleoli ffermydd gwynt ymhell ar y môr mewn dyfroedd dyfnach o lawer i harneisio pŵer gwyntoedd cyflymach a mwy cyson i greu ynni gwyrdd i helpu i gyrraedd targedau sero-net Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Ystad y Goron ei bod yn bwriadu dyfarnu hawliau gwely’r môr i ddatblygwyr ar gyfer prosiectau gwynt arnofiol alltraeth (FLOW) yn y Môr Celtaidd, gyda chyfanswm capasiti rhanbarthol o 4GW.
Bydd prosiectau gwynt arnofiol yn cyfrannu at darged llywodraeth y DU o’r holl drydan i'w gynhyrchu o ffynonellau carbon isel erbyn 2035, a nod Llywodraeth Cymru o gynhyrchu 70% o ddefnydd trydan Cymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2030.
Mae gan brosiectau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd y potensial i ddod â buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, gan gefnogi cymunedau arfordirol a chreu buddion hirdymor i’r rhanbarth.
Trosolwg o Brosiect Gwynt Glas
Cynhyrchu ffyniant
Ein nod yw datblygu fferm wynt arnofiol alltraeth yn y Môr Celtaidd i gynhyrchu ynni glân a hybu ffyniant economaidd rhanbarthol, tra’n lleihau’r aflonyddwch i’r amgylchedd naturiol, cymunedau lleol a defnyddwyr y môr.
Gwynt arnofiol alltraeth
Mae Gwynt Glas yn cynnal gweithgareddau datblygu cychwynnol gyda'r bwriad o gael Cytundeb Prydles gan Ystad y Goron ar gyfer fferm wynt arnofiol alltraeth o hyd at 1GW.
Pŵer i gartrefi
Mae'r prosiect arfaethedig yn debygol o gynnwys dyfroedd Cymru a Lloegr a gallai ddarparu pŵer ar gyfer tua 920,000 o gartrefi.
I gydnabod ein gwreiddiau Celtaidd, dewiswyd Gwynt Glas fel yr enw ar gyfer y prosiect